Creu siop Fictoraidd yn yr ystafell ddosbarth er mwyn chwarae rôl
Mae chwarae rôl yn bwysig o ran helpu plant ifanc iawn i ddeall y gorffennol. Mae'r wefan yn cynnwys defnyddiau y gellir eu llwytho i lawr a'u defnyddio i greu siop Fictoraidd yn y 'Cornel Cartref'. Mae'r defnyddiau'n cynnwys:
Y tu ôl i'r plant y mae dau fersiwn o'r poster maint A4 yn hysbysebu te Sainsbury, wedi
i chwyddo i faint A3 ar y llungopïwr. O'u hamgylch y mae 10 copi o'r teils border Ffarwél
Haf, a lungopïwyd ar bapur melyn golau i arbed amser lliwio.
Pe baech chi'n gadael border o 1cm o amgylch y poster te yna bydd 10 o'r teils border ffarwél haf yn ffit berffaith.
Fe wnaeth pob plentyn
yn y dosbarth liwio un deilsen, a oedd yn cymryd tua 20 munud.
Y nod yma oedd ail?greu'r arddangosfeydd ar wal y siop Fictoraidd fel y gwelir yn y llun hwn.
Uwch ben y poster te fe welwch ymdrechion y plant i gwblhau'r teils dolffin gan ddewis eu
lliwiau eu hunain. Mae hon yn dasg eithaf anodd ac yn cymryd cryn amser felly hwyrach y
byddai'n well cyfyngu ar nifer y plant sy'n gwneud y dasg hon.
Gwisgoedd y siop
Gwnaed ymgais yma i gynhyrchu rhywbeth tebyg i wisg Mr Newport. Gan ddefnyddio hen grysau
ysgol y bechgyn o'r dosbarth iau a ffedogau a wnaed o hen liain ford gwyn.
Lapio'r nwyddau
Mae'r ail ffotograff yn dangos rhai o'r plant yn lapio darnau o fenyn gan ddefnyddio papur
gwrthsaim a phapur arall, sydd ychydig yn fwy na maint A4. Gallech ddefnyddio papur maint
A4 os byddwch yn lleihau maint eich menyn ffug. Roedd y plant wrth eu bodd gyda'r dasg hon
ac yn cael profiad ymarferol o arwynebedd a chyfaint.
Mae'r trydydd ffotograff yn dangos rhai o'r plant yn gorffen eu parseli.
Bu'r siop Fictoraidd yn y cornel cartref yn enghraifft boblogaidd a llwyddiannus iawn
o ddefnyddio chwarae rôl i gynnal dealltwriaeth y plant o'r gorffennol, wedi ei gynorthwyo,
efallai, gan y ffaith iddynt gyfrannu'n helaeth at ddylunio a chreu'r cynnwys ar gyfer y
cornel.
Mae'r pedwerydd llun yn dangos rhagor o'r dosbarth yn chwarae rôl yn y siop.