Mae'r adnoddau y gellir eu llwytho i lawr yn cynnwys: |
Llyfr Lloffion Fictoraidd:
|
Casgliad o 5 gweithgaredd sy'n cynorthwyo'r
plant wrth iddynt chwilio drwy'r adran 'Tu Mewn i'r Siop' ar y wefan. Dyma'r gweithgareddau:
- Chwilio'r wefan: 8 cwestiwn chwilio syml sy'n annog y plant i chwilio drwy'r wefan.
- WLapio'r selsig. Tasg torri a gludo a gosod mewn dilyniant sy'n edrych ar sut roedd siopau Fictoraidd yn lapio'u nwyddau.
- Beth gaf i brynu yn y Siop Fictoraidd? Cyfres o ymarferiadau llenwi'r bylchau ar y cynnyrch a werthwyd mewn siopau 100 mlynedd yn ôl.
- Fy llyfr o becynnau o siop Fictoraidd. Llyfr bach lle gall y plant gofnodi eu hymchwiliadau i'r ystod o becynnau a oedd ar gael mewn siop fwyd Fictoraidd.
- Siopau - ddoe a heddiw. Tabl ar gyfer cofnodi arsylwadau'r plant ar y gwahaniaeth rhwng siopau heddiw a siopau yn Oes Fictoria.
|
Stori Harry
|
Casgliad o 3 gweithgaredd sy'n helpu'r plant i ddarllen yr adran ar Stori Harry. Dyma'r gweithgareddau:
- Cwblhau'r stori. Ymarferiad llenwi'r bylchau, yn seiliedig ar destun y stori.
- Ysgrifenna dy stori dy hun. Copi o'r stori lawn, ynghyd â lluniau amlinell a llinellau sy'n rhoi'r cyfle i'r plant ysgrifennu eu geiriau eu hunain, ar bedair dalen A4.
- Gwaith Estynedig: Rhai syniadau ar gyfer ysgrifennu dychmygol annibynnol yn seiliedig ar stori Harry Webb.
|
Creu Siop Fictoraidd
|
Mae modd llwytho'r casgliad hwn o
ddefnyddiau oddi ar y we er mwyn cynorthwyo i greu siop Fictoraidd yn yr ystafell ddosbarth.
Mae'r pecyn yn cynnwys y copïau canlynol o arteffactau o siop Sainsbury yn oes Fictoria.
- Poster maint A4 yn hysbysebu te Sainsbury.
- Copi amlinelliad o'r teils Dolffin.
- Copi amlinelliad o deils border Ffarwél Haf.
- Amlinelliad o labeli tuniau Gellyg a Phinafal.
- Label a chlawr ar gyfer pot o jam Bricyll.
- Fframwaith ar gyfer creu pecyn o de Label Coch.
|