Llwytho i lawr

Oriel luniau o siop Sainsbury yn Oes Fictoria.
Mae'n cynnwys:

Llun o'r tu allan i'r siop yn Romford tua 1902 - atgynhyrchiad yn yr Amgueddfa Foduro Genedlaethol yn Beaulieu
Y tu mewn i'r siop yn Folkestone tua 1909
Amrywiaeth o gynnyrch a phecynnau o Oes Fictoria y gellir ymchwilio iddynt drwy glicio ar wahanol rannau y tu mewn i'r siop.

Stori Harry

Llyfr llafar wyth tudalen yn olrhain diwrnod dychmygol ym mywyd Harry Webb sef bachgen go iawn a oedd yn gweithio yn siop Sainsbury, cangen Enfield, yn 1912. Cewch wrando ar y llyfr ar y wefan a, chyn belled â bod RealPlayer ar y cyfrifiadur, medrwch ofyn iddo ddarllen y testun ar bob tudalen. Cymerwyd gofal arbennig i sicrhau bod cynnwys a darluniau stori Harry mor hanesyddol gywir ag y gall stori ffuglen fod. Mae'r darluniau yn dangos golygfeydd o strydoedd a chartrefi Oes Fictoria y gallech eu defnyddio i ychwanegu at ymwybyddiaeth y plant o'r cyfnod.

Dyma'r prif themâu a geir yn stori Harry:

  • Paratoi i fynd i'r gwaith yn y bore
  • Pam roedd bechgyn yn cael eu cyflogi i ddosbarthu nwyddau yn Oes Fictoria.
  • Pa mor gorfforol galed oedd gwaith Harry
  • Technoleg ffyrdd a beiciau ym Mhrydain yn Oes Fictoria.
Fy Llyfr Lloffion Fictoraidd
Casgliad o daflenni gwaith a gweithgareddau y gellir eu llwytho i lawr i gynorthwyo'r plant wrth iddynt grwydro'r wefan.
Creu ein siop Fictoraidd ein hunain
Casgliad o ddefnyddiau, arteffactau a chyngor y gellir eu llwytho i lawr i'ch cynorthwyo i greu siop Fictoraidd yn y dosbarth er mwyn cynnal a chwarae rôl.